lynx   »   [go: up one dir, main page]

Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Diwygio Rheoliadau 2016

3.—(1Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “baban” (“infant”) yw plentyn o dan 12 mis oed;;

mae i “bwyd at ddibenion meddygol arbennig” yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â “food for special medical purposes” yn Rheoliad yr UE(1);;

ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd syʼn ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig(2);; a

(ii)yn y diffiniad o “gofyniad UE penodedig”, ar ôl “Rheoliad yr UE” mewnosoder “neuʼr Rheoliad Dirprwyedig”; a

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd wedi ei chynnwys yn y tabl yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(6) Nid yw unrhyw gyfeiriad at y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y Rheoliad Dirprwyedig ond i’r graddau y mae’n gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod.

(3Ar ôl rheoliad 6 (diwygiadau i offerynnau statudol) mewnosoder—

Trefniadau trosiannol

7.  Caniateir i fwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau penodedig y Rheoliad Dirprwyedig, barhau i gael ei farchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu ar yr amod—

(a)ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad yr UE;

(b)iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu cyn 22 Chwefror 2019; ac

(c)bod gofynion rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 wedi eu bodloni.

(1)

Mae Erthygl 2(2)(g) o Reoliad yr UE yn datgan bod “‘food for special medical purposes’ means food specifically processed or formulated and intended for the dietary management of patients, including infants, to be used under medical supervision; it is intended for the exclusive or partial feeding of patients with a limited, impaired or disturbed capacity to take, digest, absorb, metabolise or excrete ordinary food or certain nutrients contained therein, or metabolites, or with other medically-determined nutrient requirements, whose dietary management cannot be achieved by modification of the normal diet alone.”

(2)

OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 30.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Лучший частный хостинг