http://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2011/e/data.feed 2025-09-11T23:59:59Z Search Results 20 1 1 3 56 http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/829
The Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009 (Commencement No. 3) (Wales) Order 2011 / Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011
2017-11-27T23:59:00+01:00 2011-04-18T14:30:01.289+01:00

This Order is the third Commencement Order made by the Welsh Ministers under the Apprenticeships, Skills, Children and Learning Act 2009 (“the 2009 Act”), which brings specified provisions of the 2009 Act into force so far as relating to Wales.

Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”), sy'n dwyn darpariaethau penodedig yn Neddf 2009 i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/736
The Assembly Learning Grants (European Institutions) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011
2016-09-15T23:59:00+01:00 2011-04-12T14:30:00.748+01:00

These Regulations provide for financial support for eligible students ordinarily resident in Wales undertaking postgraduate courses at the Bologna Center and the College of Europe. The Regulations apply in respect of academic years beginning on or after 1 September 2011.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n ymgymryd â chyrsiau ôl-raddedig yng Nghanolfan Bologna ac yng Ngholeg Ewrop. Mae'r Rheoliadau'n gymwys o ran blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar 1 Medi 2011 neu wedyn.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/886
The Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) (No. 2) Regulations 2011 / Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011
2016-09-30T23:59:00+01:00 2011-08-26T00:00:00+01:00

These Regulations provide for financial support for students who are ordinarily resident in Wales taking designated higher education courses in respect of academic years beginning on or after 1 September 2012. They consolidate, with some changes, the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 2011 (“the 2011 Regulations”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”).

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/148
The Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011
2019-07-23T23:59:00+01:00 2011-02-24T15:30:18.152+01:00

These Regulations provide for financial support for students who are ordinarily resident in Wales taking designated higher education courses in respect of academic years beginning on or after 1 September 2011. They consolidate, with some changes, the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 2009 (“the 2009 Regulations”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009,(“Rheoliadau 2009”).

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1504
The Barry College Further Education Corporation and Coleg Glan Hafren Further Education Corporation (Dissolution) Order 2011 / Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011
2014-12-02T23:59:00+01:00 2011-07-01T14:30:08.928+01:00

This Order dissolves the further education corporations established to conduct Barry College (“Coleg y Barri”) and Coleg Glan Hafren with effect from 1 August 2011. It provides for the transfer of the property, rights and liabilities of each corporation to Cardiff and Vale College Further Education Corporation (“Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro”) and secures the employment rights of the employees of the dissolved corporations by applying, with modifications, section 26(2) to (4) of the Further and Higher Education Act 1992 (“the Act”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r corfforaethau addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg y Barri (“Barry College”) a Choleg Glan Hafren a hynny'n effeithiol o 1 Awst 2011 ymlaen. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau pob corfforaeth i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”) ac mae'n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1654
The Cancellation of Student Loans for Living Costs Liability (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011
2025-04-03T23:59:00+01:00 2011-07-20T14:30:26.121+01:00

These Regulations govern the student loan liability of students who receive loans for living costs from the Welsh Ministers in respect of the academic year 2011/2012.

Mae'r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyriwr sydd gan fyfyrwyr sy'n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd 2011/2012.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/659
The Cardiff and Vale College (Incorporation) Order 2011 / Gorchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011
2014-12-02T23:59:00+01:00 2011-03-24T15:30:05.3+01:00

This Order establishes a further education corporation called “Cardiff and Vale College” under section 16(1)(a) of the Further and Higher Education Act 1992 (“the Act”) for the purpose of conducting the educational institution of the same name. The Order also provides for the appointment of 1 August 2011 as the operative date for the purposes of Part 1 of the Act, being the date from which Cardiff and Vale College is to conduct the educational institution of the same name.

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir Coleg Caerdydd a'r Fro o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) at y diben o redeg y sefydliad addysgol sydd â'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 1 Awst 2011 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymgymryd â rhedeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/657
The Cardiff and Vale College Further Education Corporation (Government) Regulations 2011 / Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (Llywodraethu) 2011
2012-11-20T23:59:00+01:00 2011-03-30T14:30:00.526+01:00

These Regulations prescribe the Instrument of Government and Articles of Government for Cardiff and Vale College Further Education Corporation. The Instrument of Government and Articles of Government provide for the constitution and conduct of Cardiff and Vale College Further Education Corporation.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r Offeryn Llywodraethu a'r Erthyglau Llywodraethu ar gyfer Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro. Mae'r Offeryn Llywodraethu ac Erthyglau Llywodraethu yn darparu ar gyfer cyfansoddiad ac ar gyfer rhedeg Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/710
The Education (Free School Lunches) (Prescribed Tax Credits) (Wales) (Amendment) Order 2011 / Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011
2015-09-16T23:59:00+01:00 2011-04-11T14:30:04.462+01:00

This Order amends the Education (Free School Lunches) (Prescribed Tax Credits) (Wales) Order 2003.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/2325
The Education (Information About Individual Pupils) (Wales) (Amendment) Regulations 2011 / Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011
2017-11-27T23:59:00+01:00 2011-10-18T14:30:13.04+01:00

These Regulations amend the Education (Information About Individual Pupils) (Wales) Regulations 2007 (“the 2007 Regulations”). The 2007 Regulations require the governing body of any maintained school on receiving a written request from the local authority by which the school is maintained to supply within fourteen days such of the information as is requested by the authority in respect of pupils at the school.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn ei gwneud yn ofynnol bod corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg wedi i gais ysgrifenedig ddod i'w law oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol, yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod mewn cysylltiad â disgyblion yn yr ysgol.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/107
The Education (Local Curriculum for Students Aged 16 to 18) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011
2015-09-16T23:59:00+01:00 2011-02-02T15:30:11.264+01:00

The Learning and Skills (Wales) Measure 2009 (“the Measure”) inserted new provisions into Part 2 of the Learning and Skills Act 2000 (“the 2000 Act”). Part 2 of the 2000 Act concerns school sixth forms and further education institutions in Wales. As a result of Part 2 of the Measure the curriculum in school sixth forms and institutions in the further education sector in Wales, are expanded to include the local curriculum entitlements of pupils who have ceased to be of compulsory school age, but who have not yet attained the age of 19. These Regulations make provision as to the elections a student may make, the head teacher’s or principal’s decision as to entitlement, the determination of a pupil’s relevant school or institution and the head teacher’s or principal’s decision to remove an entitlement.

Mewnosododd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (“y Mesur”) ddarpariaethau newydd yn Rhan 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (“Deddf 2000”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â'r chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 2 o'r Mesur y caiff y cwricwlwm ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau yn y sector addysg bellach yng Nghymru, ei ehangu i gynnwys hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion sydd wedi peidio â bod o oedran ysgol gorfodol, ond nad ydynt hyd yn hyn wedi cyrraedd 19 oed. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y dewisiadau y caiff myfyriwr eu gwneud, penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth, dyfarniad ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl a phenderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/706
The Education (Remission of Charges Relating to Residential Trips) (Wales) (Amendment) Regulations 2011 / Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2011
2015-09-16T23:59:00+01:00 2011-04-11T14:30:06.187+01:00

These Regulations amend the Education (Remission of Charges Relating to Residential Trips) (Wales) Regulations 2003 to add an additional benefit or allowance which entitles the child of a claimant to free board and lodging on a residential trip.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 er mwyn ychwanegu budd-dal neu lwfans ychwanegol sy'n rhoi'r hawl i blentyn hawlydd gael prydau bwyd a llety am ddim ar daith breswyl.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/149
The Education (School Day and School Year) (Wales) (Amendment) Regulations 2011 / Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2011
2017-11-27T23:59:00+01:00 2011-02-09T15:30:00.655+01:00

The Education (School Day and School Year) (Wales) Regulations 2003 (“the 2003 Regulations”) apply to schools maintained by local authorities and to special schools (whether or not so maintained). They make provision (among other things) for a school day which is ordinarily to be divided into two sessions (with a break in the middle), and for schools (other than nursery schools) to meet for at least 380 sessions during any school year.

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (nad ydynt yn ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1978
The Education (Student Fees, Awards and Support) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011
2015-09-16T23:59:00+01:00 2011-08-30T14:30:01.438+01:00

These Regulations amend:

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1468
The Education (Wales) Measure 2009 (Commencement No.1) Order 2011 / Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2011
2015-09-16T23:59:00+01:00 2011-07-01T14:30:10.731+01:00

This is the first commencement Order made by the Welsh Ministers under the Education (Wales) Measure 2009 (“the 2009 Measure”). The Order brings section 20 of the 2009 Measure into force on the day after the day on which this Order is made.

Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym adran 20 o Fesur 2009 drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1951
The Education (Wales) Measure 2009 (Commencement No.2) Order 2011 / Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011
2015-09-16T23:59:00+01:00 2011-08-19T14:30:29.241+01:00

This is the second commencement Order made by the Welsh Ministers under the Education (Wales) Measure 2009 (“the 2009 Measure”). The Order brings sections 21 and 22 of the 2009 Measure into force on 1 September 2011.

Hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym adrannau 21 a 22 o Fesur 2009 ar 1 Medi 2011.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1952
The Education Act 2002 (Commencement No. 14) (Wales) Order 2011 / Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 14) (Cymru) 2011
2017-11-27T23:59:00+01:00 2011-08-23T14:30:08.641+01:00

This Order brings into force on 1 September 2011 provisions of the Education Act 2002 specified in article 2 of the Order. These are the provisions that relate to the federation of schools.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Medi 2011 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn. Y darpariaethau sy'n ymwneud â ffedereiddio ysgolion yw'r rhain.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/2908
The General Teaching Council for Wales (Disciplinary Functions) (Amendment) Regulations 2011 / Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2011
2013-01-07T23:59:00+01:00 2011-12-23T15:30:31.073+01:00

The General Teaching Council for Wales (Disciplinary Functions) Regulations 2001 make provision about the disciplinary functions of the General Teaching Council for Wales. These Regulations amend the 2001 Regulations by replacing regulation 8 which makes provision about the membership and procedure of the Investigating Committees, Professional Conduct Committees and Professional Competence Committees of the Council. The new regulation 8 provides that a member of the Council cannot be a member of any of those Committees.

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 drwy gael rheoliad 8 newydd sy'n gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a gweithdrefn Pwyllgorau Ymchwilio, Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol y Cyngor. Mae'r rheoliad 8 newydd yn darparu na all aelod o'r Cyngor fod yn aelod o unrhyw un o'r Pwyllgorau hynny.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1943
The Head Teacher’s Report to Parents and Adult Pupils (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011
2017-11-27T23:59:00+01:00 2011-08-23T14:30:12.009+01:00

These Regulations make provision as to the report the head teacher is required to send to parents and adult pupils each school year (regulation 3 and the Schedule) and the additional information parents of registered pupils who are assessed in any key stage may request relating to the pupil’s levels of achievements in relevant subjects (regulation 4). These Regulations replace with changes provisions relating to head teacher’s reports to parents and adult pupils formerly contained in the Education (Pupil Information) (Wales) Regulations 2004 (“the 2004 Regulations”) as amended. The other provisions of the 2004 Regulations have been revoked and replaced by the Pupil Information (Wales) Regulations 2011.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy'n oedolion ym mhob blwyddyn ysgol (rheoliad 3 a'r Atodlen) a'r wybodaeth ychwanegol y caiff rhieni disgyblion cofrestredig, sydd yn cael eu hasesu yn unrhyw gyfnod allweddol, ofyn amdani mewn perthynas â lefelau cyraeddiadau'r disgybl mewn pynciau perthnasol (rheoliad 4). Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gyda newidiadau, darpariaethau mewn perthynas ag adroddiadau pennaeth i rieni a disgyblion sy'n oedolion a gafwyd gynt yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) fel y'u diwygiwyd. Cafodd darpariaethau eraill Rheoliadau 2004 eu dirymu a'u disodli gan Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1769
The Head Teachers' Qualifications and Registration (Wales) (Amendment) Regulations 2011 / Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011
2013-01-04T23:59:00+01:00 2011-08-05T14:30:01.005+01:00

These Regulations amend the Head Teachers' Qualifications and Registration (Wales) Regulations 2005 by altering the definition of “The National Professional Qualification for Headship in Wales” in regulation 3(2) of those regulations. The requirements of the “National Professional Qualification for Headship in Wales” will change from completion of a course of training approved by the Welsh Ministers to the fulfilment of certain standards approved by the Welsh Ministers.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 drwy newid y diffiniad o “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn rheoliad 3(2) o'r rheoliadau hynny. Bydd gofynion y “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn newid o gwblhau cwrs hyfforddiant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gyflawni safonau penodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.