These Regulations provide for an increase from £15.50 to £20 in the fee payable by undertakers for inspections of their work by street authorities in Wales under regulation 3(1) of the Street Works (Inspection Fees) Regulations 1992 (S.I. 1992/1688).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £15.50 i £20 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau lleol yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S.1992/1688).
This Order brings into force on 1st January 2003 various provisions of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002 in relation to Wales, subject to the transitional provisions and savings in Schedule 2.
Mae'r Gorchymyn ar 1 Ionawr 2003 yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 mewn perthynas â Chymru, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2.
This Order amends article 2 of the Disabled Facilities Grants and Home Repair Assistance (Maximum Amounts) Order 1996, which prescribes the maximum amount of mandatory disabled facilities grant that a local housing authority can be required to pay under Chapter I of Part I of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y grant gorfodol ar gyfer cyfleusterau i'r anabl y gall fod yn ofynnol i awdurdod tai lleol dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
The Homelessness Act 2002 (“the Act”) was given Royal Assent on the 26th February 2002.
Derbyniodd Deddf Digartrefedd 2002 (“y Ddeddf”) Gydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2002.
This Order specifies seven bodies as approved lending institutions for the purposes of section 156 of the Housing Act 1985 (priority of charges on disposals under the right to buy).
Mae'r Gorchymyn hwn un pennu saith corff yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu).
These Regulations amend the Housing Renewal Grants Regulations 1996 (“the 1996 Regulations”) which set out the means test for determining the amount of renovation grant and disabled facilities grant which may be paid by local housing authorities to owner-occupier and tenant applicants under Chapter 1 of Part I of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996. The amendments are mainly consequential on changes to the Housing Benefit (General) Regulations 1987 (S.I. 1987/1971) upon which the means test is based.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (“Rheoliadau 1996”) sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu ar faint o grant adnewyddu a grant cyfleusterau i'r anabl a all gael ei dalu gan yr awdurdodau tai lleol i berchen-feddianwyr a thenantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r diwygiadau gan fwyaf yn dilyn newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971) y seilir y prawf moddion arnynt.
These Regulations amend the (bilingual) Forms to be used by owner-occupiers and tenants when applying for housing renewal grants under Chapter I of Part I of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
These Regulations amend the (bilingual) forms to be used for an application for relocation grant payable under sections 131 to 140 of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog), sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.