- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
15.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg ar ôl iddo gymeradwyo cais,—
(a)na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw amodau perthnasol;
(b)nad oedd y cais a gymeradwywyd, (neu unrhyw ran ohono), yn gais (neu ran) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud;
(c)bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr—
(i)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliad 10 neu o dan reoliad 9, 12 neu 13(5) uchod;
(ii)wedi rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer y pwerau o dan reoliad 13 uchod; neu
(iii)wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi'r gymeradwyaeth neu i wneud taliad sy'n berthnasol i'r gymeradwyaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol;
(ch)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i gychwyn cyn y dyddiad y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ganiatâd ysgrifenedig iddo gychwyn;
(d)nad yw'r gweithrediad a gymeradwywyd y tynnwyd y gwariant mewn perthynas ag ef wedi'i gyflawni neu ei fod heb ei gyflawni'n briodol neu yn unol â'r gymeradwyaeth sy'n ymwneud ag ef;
(dd)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i ohirio neu yn cael ei ohirio yn afresymol y tu hwnt i'r terfynau amser a nodwyd yn yr hysbysiad ar gyfer y gymeradwyaeth neu'n annhebyg o gael ei gwblhau;
(e)na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan y buddiolwr;
(f)bod y Comisiwn wedi penderfynu atal neu adennill y cymorth Cymunedol yn unol ag Erthyglau 38 neu 39 o Reoliad y Cyngor 1260/1999;
(ff)mewn unrhyw achos o gymorth ariannol ar gyfer adeiladu neu foderneiddio cwch bysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) isod wedi digwydd cyn pen deng mlynedd ar ôl cwblhau adeiladu'r cwch neu bum mlynedd ar ôl cwblhau moderneiddio'r cwch; neu
(g)mewn unrhyw achos o gymorth ariannol i unrhyw weithrediad perthnasol heblaw adeiladu neu foderneiddio cwch bysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (3) isod wedi digwydd cyn pen chwe mlynedd o brynu'r offer perthnasol neu ddeng mlynedd o brynu'r safle neu gwblhau'r gweithfeydd,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r taliad sydd wedi'i wneud.
(2) Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (i) o baragraff (1) uchod—
(a)colli'r cwch yn gyfan gwbl;
(b)difrodi neu ddinistrio unrhyw offer perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal;
(c)morgais ar y cwch (heblaw morgais sy'n cael ei greu i godi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r cwch, sef morgais a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo gael ei wneud);
(ch)defnyddio'r cwch yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy;
(d)gwaredu'r cwch neu unrhyw ran ohoni, ei hinjan neu unrhyw ran ohoni neu unrhyw offer perthnasol neu offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar y cwch neu mewn cysylltiad ag ef, boed drwy werthu neu drwy ddull arall; neu
(dd)bod y cwch yn peidio â bod yn cwch bysgota Cymunedol.
(3) Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (g) o baragraff (1) uchod—
(a)colli'r offer perthnasol yn gyfan gwbl;
(b)difrodi neu ddinistrio unrhyw offer, safle, neu weithfeydd perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal;
(c)creu hawl mewn gwarant dros yr offer, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol (heblaw hawl mewn gwarant sy'n cael ei chreu er mwyn codi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio yr offer perthnasol, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol, sef hawl mewn gwarant a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddi gael ei gwneud);
(ch)defnyddio'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; neu
(d)gwaredu'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol neu unrhyw ran ohonynt, boed drwy werthu neu drwy ddull arall.
(4) Os yw is-baragraff (ff) neu (g) o baragraff (1) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill yn y paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill oddi ar fuddiolwr yn unol â pharagraff (1) yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol.
(5) Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau am y cam y bwriedir ei gymryd;
(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys