http://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/70/introduction/welshRheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019cyBWYD, CYMRU;DIOGELWCH BWYDStatute Law Database2025-02-21Expert Participation2020-02-22Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig (“y Rheoliad Dirprwyedig”).Welsh Statutory Instruments2019 Rhif 70 (Cy. 22)Bwyd, CymruDiogelwch BwydRheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019Gwnaed17 Ionawr 2019Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru21 Ionawr 2019Yn dod i rym22 Chwefror 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1)(b) ac (c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 17 gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) a chan O.S. 2011/1043. Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A(1) o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) ac O.S. 2007/1388.

.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddarpariaethau penodol Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128

Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L 25, 02.02.2016, t. 30).

, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraff 21 o Atodlen 5 iddi.

o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2017/228 (OJ Rhif L 35, 10.02.2017, t. 10).

, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.