3.—(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “baban” (“infant”) yw plentyn o dan 12 mis oed;”;
“mae i “bwyd at ddibenion meddygol arbennig” yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â “food for special medical purposes” yn Rheoliad yr UE(1);”;
“ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd syʼn ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig(2);”; a
(ii)yn y diffiniad o “gofyniad UE penodedig”, ar ôl “Rheoliad yr UE” mewnosoder “neuʼr Rheoliad Dirprwyedig”; a
(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd wedi ei chynnwys yn y tabl yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(6) Nid yw unrhyw gyfeiriad at y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y Rheoliad Dirprwyedig ond i’r graddau y mae’n gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod.”
(3) Ar ôl rheoliad 6 (diwygiadau i offerynnau statudol) mewnosoder—
7. Caniateir i fwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau penodedig y Rheoliad Dirprwyedig, barhau i gael ei farchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu ar yr amod—
(a)ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad yr UE;
(b)iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu cyn 22 Chwefror 2019; ac
(c)bod gofynion rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 wedi eu bodloni.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 22.2.2019, gweler rhl. 1(3)
Mae Erthygl 2(2)(g) o Reoliad yr UE yn datgan bod “‘food for special medical purposes’ means food specifically processed or formulated and intended for the dietary management of patients, including infants, to be used under medical supervision; it is intended for the exclusive or partial feeding of patients with a limited, impaired or disturbed capacity to take, digest, absorb, metabolise or excrete ordinary food or certain nutrients contained therein, or metabolites, or with other medically-determined nutrient requirements, whose dietary management cannot be achieved by modification of the normal diet alone.”
OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 30.