2. Yn lle’r diffiniad o “bwyd meddygol” yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2000 rhodder—
“ystyr “bwyd meddygol” (“medical food”) yw bwyd sy’n dod o fewn dosbarth bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig y gosodir gofynion cyfansoddi a labelu ar eu cyfer yn y Gyfarwyddeb ac sydd wedi eu datblygu i fodloni gofynion maethol babanod;”.