http://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/70/regulation/1/made/welshRheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019cyKing's Printer of Acts of Parliament2019-01-18BWYD, CYMRU;DIOGELWCH BWYDMae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig (“y Rheoliad Dirprwyedig”).Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli1.(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2019.

(4)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

O.S. 2000/1866 (Cy. 125), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/639 (Cy. 175) ac O.S. 2018/806 (Cy. 162); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

;

ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

O.S. 2016/639 (Cy. 175).

.