Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2019.
(4)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 20006;
ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 20167.