http://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/70/regulation/1/welshRheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019cyBWYD, CYMRU;DIOGELWCH BWYDStatute Law Database2025-02-21Expert Participation2020-02-22
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran gwybodaeth a chyfansoddiad ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig (“y Rheoliad Dirprwyedig”).
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2019.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000;
ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016.
O.S. 2000/1866 (Cy. 125), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/639 (Cy. 175) ac O.S. 2018/806 (Cy. 162); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2016/639 (Cy. 175).
Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2019, gweler rhl. 1(3)