1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2019.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(1);
ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2019, gweler rhl. 1(3)
O.S. 2000/1866 (Cy. 125), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/639 (Cy. 175) ac O.S. 2018/806 (Cy. 162); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.