http://www.legislation.gov.uk/wsi/2019/363/introduction/welshGorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019cyPYSGODFEYDD MÔR, CYMRUStatute Law Database2025-03-07Expert Participation2021-04-14Mae’r Gorchymyn hwn yn creu cynllun ar gyfer dyroddi a thalu hysbysiadau cosb ynglŷn â throseddau penodol yn ymwneud â physgota môr. Mae’n dirymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau’r Gymuned) (Hysbysiadau Cosb) 2008 gan ddisodli hwnnw â chynllun sy’n gymwys i droseddau a grëir o dan ddeddfwriaeth ddomestig yn ogystal â’r rhai sy’n codi o ganlyniad i dorri cyfyngiad cymunedol gorfodadwy neu rwymedigaeth arall.Welsh Statutory Instruments2019 Rhif 363 (Cy. 86)Pysgodfeydd Môr, CymruGorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019Gwnaed20 Chwefror 2019Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru26 Chwefror 2019Yn dod i rym22 Mawrth 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(2) a (2ZA) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981

1981 p. 29 (“Deddf 1981”); mewnosodwyd adran 30(2ZA) gan adran 293(3) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Gweler adran 30(3) i gael y diffiniad o “the Ministers”.

a freiniwyd bellach ynddynt hwy

Cafodd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 30 o Ddeddf 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’u trosglwyddo wedyn o’r corff hwnnw i Weinidogion Cymru: gweler erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Cafodd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adran 30 o Ddeddf 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(e) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760). Cafodd y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo ymhellach, ar sail gydredol, o ran cychod pysgota Cymru y tu hwnt i derfyn parth Cymru tua’r môr gan adran 59A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 2(1) o Atodlen 3A iddi.

ac adrannau 294 a 316(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

2009 p. 23.

, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.