http://www.legislation.gov.uk/wsi/2018/968/introduction/welshRheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018cyANIFEILIAID, CYMRU;IECHYD ANIFEILIAIDStatute Law Database2025-09-27Expert Participation2020-12-31Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud gyda diwygiadau Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy. 282)).Welsh Statutory Instruments2018 Rhif 968 (Cy. 195)Anifeiliaid, CymruIechyd AnifeiliaidRheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018Gwnaed4 Medi 2018Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru6 Medi 2018Yn dod i rym1 Hydref 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi

O.S. 2008/1792.

at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

1972 p. 68.

mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.

Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.