lynx   »   [go: up one dir, main page]

RHAN 3Gweinyddu a Gorfodi

Cymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu neu gofrestru7.

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os ydynt wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn.

(2)

Rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad fod mewn ysgrifen a rhaid iddi neu iddo bennu—

(a)

cyfeiriad y fangre;

(b)

enw’r meddiannydd; ac

(c)

y diben y’i rhoddir ar ei gyfer.

(3)

Caniateir i gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad gael ei gwneud neu ei wneud yn ddarostyngedig i’r amodau hynny sy’n angenrheidiol er mwyn—

(a)

sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE yr UE a’r Rheoliadau hyn; neu

(b)

diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

(4)

Pan fônt yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad, neu’n rhoi un yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

rhoi rhesymau mewn ysgrifen; a

(b)

egluro bod hawl gan y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(5)

Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 11 yn gymwys.

Лучший частный хостинг