http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/h/data.feed 2023-02-09T23:59:59Z Search Results 20 1 1 1 8 http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1565
The Saundersfoot Harbour Empowerment Order 2011 / Gorchymyn Grymuso Harbwr Saundersfoot 2011
2016-10-17T23:59:00+01:00 2011-07-12T14:30:06.374+01:00 http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/2486
The Marketing of Fresh Horticultural Produce (Wales) (Amendment) Regulations 2011 / Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011
2013-01-04T23:59:00+01:00 2011-11-11T15:30:22.237+01:00

These Regulations give effect, in relation to Wales, to Commission Implementing Regulation (EU) No 543/2011 of 7 June 2011 laying down detailed rules for the application of Council Regulation (EC) No 1234/2007 in respect of the fruit and vegetables and processed fruit and vegetables sectors (OJ No L 157, 15.6.2011, p.1) “the Commission Implementing Regulation 543/2011”.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith, o ran Cymru, i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu (OJ Rhif L 157, 15.6.2011, t.1) “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1409
The Assured Tenancies (Amendment of Rental Threshold) (Wales) Order 2011 / Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011
2023-02-09T23:59:00+01:00 2011-06-23T14:30:00.908+01:00 ( Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1865
The Housing (Purchase of Equitable Interests) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Tai (Prynu Buddiannau Ecwitïol) (Cymru) 2011
2012-11-22T23:59:00+01:00 2011-08-10T14:30:03.608+01:00

These Regulations give a housing authority which is a landlord of a flat under a long lease the power to purchase an equitable interest in the flat in order to assist the tenant to meet some or all of the costs of service charge payments payable by the tenant to the landlord in respect of repairs and improvement contributions. The agreement of the tenant is required. The terms “housing authority” and “long lease” are defined in section 458 of the Housing Act 1985. Section 450D of that Act (under which these Regulations are made) modifies the definition of “housing authority”, and defines “improvement contribution” and “repairs”.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi i awdurdod tai sy'n landlord fflat o dan les hir bŵer i brynu buddiant ecwitïol yn y fflat er mwyn cynorthwyo'r tenant i dalu rhywfaint neu'r cyfan o gostau'r taliadau ffioedd gwasanaeth sy'n daladwy gan y tenant i'r landlord mewn cysylltiad ag atgyweiriadau a chyfraniadau at welliannau. Mae'n ofynnol cael cytundeb y tenant. Mae'r term “housing authority” (“awdurdod tai”) a'r term “long lease” (“les hir”) wedi eu diffinio yn adran 458 o Ddeddf Tai 1985. Mae adran 450D o'r Ddeddf honno (y mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dani) yn addasu'r diffiniad o “housing authority”, ac yn diffinio “improvement contribution” (“cyfraniad at welliant”) a “repairs” (“atgyweiriadau”).

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1864
The Housing (Service Charge Loans) (Amendment) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011
2016-07-04T23:59:00+01:00 2011-08-10T14:30:05.777+01:00

These Regulations amend the Housing (Service Charge Loans) Regulations 1992 (“the 1992 Regulations”) which provide for housing authorities to make loans to their tenants in respect of service charges for repairs or improvements. The amendments which apply only in relation to Wales, relate to loans made under the discretionary power in regulation 5 of the 1992 Regulations. That power may be exercised, in respect of flats, by “housing authorities”. The term “housing authority” for the purposes of these amendments is defined in section 450B(4) of the Housing Act 1985.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) 1992 (“Rheoliadau 1992”) sy'n darparu bod awdurdodau tai yn cael gwneud benthyciadau i'w tenantiaid mewn cysylltiad â ffioedd gwasanaeth am atgyweiriadau neu welliannau. Mae'r diwygiadau sy'n gymwys o ran Cymru'n unig, yn ymwneud â benthyciadau sy'n cael eu gwneud o dan y pŵer disgresiynol yn rheoliad 5 o Reoliadau 1992. Caiff y pŵer hwnnw ei arfer, mewn cysylltiad â fflatiau, gan “awdurdodau tai”. Mae'r term Saesneg “housing authority”, sy'n cyfateb i'r term Cymraeg “awdurdod tai” at ddibenion y diwygiadau hyn, wedi ei ddiffinio yn adran 450B(4) o Ddeddf Tai 1985.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/2475
The Housing (Wales) Measure 2011 (Commencement No. 1) Order 2011 / Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011
2012-11-20T23:59:00+01:00 2011-11-11T15:30:22.893+01:00

This Order, made by the Welsh Ministers, commences the majority of Part 2 (Registered Social Landlords) of the Housing (Wales) Measure 2011 (“the Measure”) on 18 October 2011 (“the first commencement date”) with the remainder coming into force on 2 December 2011 (“the second commencement date”).

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn y rhan fwyaf o Ran 2 (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 18 Hydref 2011 (“y dyddiad cychwyn cyntaf”) a'r gweddill yn dod i rym ar 2 Rhagfyr 2011 (“yr ail ddyddiad cychwyn”).

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1863
The Housing and Regeneration Act 2008 (Commencement No. 2) (Wales) Order 2011 / Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011
2017-11-27T23:59:00+01:00 2011-08-10T14:30:06.493+01:00

This Order is the second Commencement Order made by the Welsh Ministers under the Housing and Regeneration Act 2008 (“the 2008 Act”). It brings section 309 (Former right to buy and other flats: equity share purchases) of the 2008 Act into force on 26 July 2011 for the purpose of enabling the Welsh Ministers to make regulations. The Order brings section 308 (Former right to buy and other flats: service charge loans) of the 2008 Act and section 309 fully into force in relation to Wales on 19 August 2011.

Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”). Mae'n dod ag adran 309 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: pryniadau cyfrannau ecwiti) o Ddeddf 2008 i rym ar 26 Gorffennaf 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau. Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 308 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: benthyciadau at ffioedd gwasanaeth) o Ddeddf 2008 ac adran 309 i rym yn llawn o ran Cymru ar 19 Awst 2011.

http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2011/1501
The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Revocation) (Wales) Regulations 2011 / Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011
2013-01-04T23:59:00+01:00 2011-07-01T14:30:10.364+01:00

These Regulations revoke in relation to Wales the Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) Regulations 1996 (S.I. 1996/2891) and the Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998 (S.I. 1998/1113). The 1996 and 1998 Regulations prescribed an English and Welsh form for applications for grants under Chapter 1 of Part 1 of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996 (for assistance from local housing authorities to the cost of works required for the provision of facilities for disabled persons in certain dwellings).

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu, o ran Cymru, Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) a Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113). Roedd Rheoliadau 1996 a 1998 yn rhagnodi ffurflen Saesneg a ffurflen Gymraeg ar gyfer ceisiadau am grantiau o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (am gymorth gan awdurdodau tai lleol tuag at gost gwaith sy'n ofynnol er mwyn darparu cyfleusterau i bersonau anabl mewn anheddau penodedig).