http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/3399/introduction/made/welshRheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2007cyKing's Printer of Acts of Parliament2017-11-23ARDRETHU A PHRISIO, CYMRUMae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau bwrdeistref a chynghorau sir) yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth sydd i'w rhoi pan maent yn cyflwyno hysbysiadau o'r fath.The Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) (Amendment) Regulations 2007Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2007RegulationsThe Non-Domestic Rating (Demand Notices) (Wales) Regulations 2017Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017Sch. 4reg. 7reg. 1(2)Welsh Statutory Instruments2007 Rhif 3399 (Cy.303)ARDRETHU A PHRISIO, CYMRURheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2007Gwnaed1 Rhagfyr 2007Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru3 Rhagfyr 2007Yn dod i rym15 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(3) a (4A) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi

1988 p.41.

ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993

1993 p.38.

, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

.