Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'i wneud
11 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
6 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd iddo gan adrannau 2, 3(1) i (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972(2) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48);
Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honNo. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), adran 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).