lynx   »   [go: up one dir, main page]

2000 Rhif 1036 (Cy. 67)
TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU

Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118 a 166(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 19991 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Llety awdurdodau tai2.

The classes of persons specified in Articles 3 and 4 of the Persons subject to Immigration Control (Housing Authority Accommodation and Homelessness) Order 20003 are specified for the purposes of Section 118(1) of the Immigration and Asylum Act 1999 in relation to Wales and expressions used in those Articles have the meaning given to them by Article 2 of that Order.

Diddymiad3.

Mae Gorchymyn Llety Tai (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 19994 wedi'i ddiddymu ac mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 10 o Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 118 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, na fydd tenantiaeth ar lety mewn ty sy'n cael ei ddarparu o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985, heblaw llety sy'n cael ei ddyrannu o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996, na thrwydded i'w feddiannu, yn cael ei roi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu oni bai bod y denantiaeth, neu'r drwydded i feddiannu, yn cael ei roi yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 95 o Ddeddf 1999.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer pennu'r dosbarthiadau o bersonau a bennir at ddibenion adran 118 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 at y dibenion hynny mewn perthynas â Chymru hefyd.

Лучший частный хостинг