http://www.legislation.gov.uk/wsi/2000/1036/contents/made/welshGorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000cyKing's Printer of Acts of Parliament2018-02-09TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU
Mae adran 118 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, na fydd tenantiaeth ar lety mewn ty sy'n cael ei ddarparu o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985, heblaw llety sy'n cael ei ddyrannu o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996, na thrwydded i'w feddiannu, yn cael ei roi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu oni bai bod y denantiaeth, neu'r drwydded i feddiannu, yn cael ei roi yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 95 o Ddeddf 1999.
Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000
1Enwi, cychwyn a chymhwyso
2Llety awdurdodau tai
3Diddymiad
2000 Rhif 1036 (Cy. 67)
TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU
Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud
30 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118 a 166(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
1999 p. 33. Mae adrannau 118 a 119 yn ail-ddeddfu, gyda newidiadau, adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p. 49) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Tai 1996 (p.52), Atodlen 16, paragraff 3 ac Atodlen 19, Rhannau VII ac VIII.
Mewn perthynas ag adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30).